Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – diweddariad

Annwyl Gyfaill,

 

Gweler isod y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r hyn sydd i ddod yn nhymor yr haf.

 

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth

Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar 7 Ebrill 2022.

 

Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb i’n hargymhellion ym mis Mai.

 

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Fel rhan o'n hymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl, gwnaethom gynnal sesiynau tystiolaeth lafar ar 24 Mawrth 2022 er mwyn rhoi cyd-destun ar gyfer ein gwaith. Cynhaliwyd y sesiynau hyn gyda sefydliadau iechyd meddwl, y Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn.

Cyfeiriodd y sesiynau hyn at y dystiolaeth ysgrifenedig a gawsom gan fwy na 90 o bobl a sefydliadau, yn ogystal â’r grwpiau ffocws a gynhaliwyd gennym gyda thua 80 o bobl sydd wedi cael profiadau byw o anghydraddoldebau iechyd meddwl.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ymchwiliad hwn, a'r gwaith y byddwn yn canolbwyntio arno nesaf, yn ein blog.

Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd, Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gwnaethom gynnal gwrandawiad cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rôl hon, sef yr Athro Medwin Hughes, ar 28 Mawrth 2022.

Gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar 30 Mawrth 2022.

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai

Daeth y broses o gasglu tystiolaeth i ben ar 24 Mawrth 2022, pan wnaethom gynnal sesiwn gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad yn nhymor yr haf.

Iechyd menywod a merched

Gwnaethom gynnal sesiwn untro ar iechyd menywod a merched ar 10 Mawrth 2022, gan archwilio’r dystiolaeth ar gyfer cynllun iechyd i fenywod a merched a’r hyn y dylai ei gynnwys.

Gwnaethom ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 25 Mawrth 2022 er mwyn tynnu sylw at y materion allweddol a godwyd yn ystod y sesiwn.

Ymchwiliad i COVID-19 ledled y DU

Ar 1 Ebrill 2022, gwnaethom ysgrifennu at Gadeirydd yr ymchwiliad i COVID-19 ledled y DU a'r Prif Weinidog er mwyn datgan ein barn ar gylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad dan sylw.

 

Gweithgareddau eraill y Pwyllgor

Gallwch ddod o hyd i fanylion am waith y Pwyllgor hyd yma, ynghyd â'i flaenraglen waith, ar ein gwefan. Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter: @SeneddIechyd.

Rydych yn cael y neges e-bost hon gan eich bod wedi gwneud cais yn flaenorol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith.

Os nad ydych yn dymuno cael yr hysbysiadau hyn mwyach, rhowch wybod i ni drwy anfon neges at: SeneddIechyd@senedd.cymru.

 

 

Cofion cynnes

Health and Social Care Committee update

Dear colleague

 

Please see below update on the Health and Social Care Committee’s recent work, and what is coming up in the summer term.

 

Impact of the waiting times backlog on people in Wales who are waiting for diagnosis or treatment

We published our report on 7 April 2022.

 

The Welsh Government is due to respond to our recommendations in May.

 

Mental health inequalities

As part of our inquiry on mental health inequalities, we held scene-setting oral evidence sessions with mental health organisations and the Children’s and Older People’s Commissioners on 24 March 2022.

These sessions drew on the written evidence we received from more than 90 people and organisations, and the focus groups we held with almost 80 people who have lived experience of mental health inequalities.

You can find out more about this inquiry, and what we’ll be focusing on next, in our blog post.

 

Pre-appointment hearing: Chair, Citizens’ Voice Body for Health and Social Care

We held a pre-appointment hearing with the Welsh Government’s preferred candidate for this role, Professor Medwin Hughes, on 28 March 2022.

We published our report on 30 March 2022.

 

Hospital discharge and its impact on patient flow through hospitals

We finished taking evidence on 24 March 2022 with a session with the Minister for Health and Social Services and the Deputy Minister for Social Services.

We will publish our report in the summer term.

 

Women and girls’ health

We held a one off session on women and girls’ health on 10 March 2022, exploring the evidence for a women and girls’ health plan and what it should include.

We wrote to the Minister for Health and Social Services on 25 March 2022 to highlight key issues raised during the session.

 

UK COVID-19 Inquiry

On 1 April 2022, we wrote to the Chair of the UK COVID-19 inquiry and the First Minister to set out our views on the Inquiry’s draft terms of reference.

 

Other Committee activity

You can find details of our work to date, and our upcoming work programme on our website. You can also follow us on Twitter at @seneddhealth.

You are receiving this email as you have previously asked to be kept up to date with our work.

If you no longer wish to receive these notifications, please let us know at SeneddHealth@senedd.wales.

 

 

Kind regards